Sunday, February 18, 2007

Independence - A journey towards factionalism ?

Some of those now blogging for independence have pointed to the stresses between three factions in Plaid Cymru. This fact has been clear to many of us who watch and listen to them, as there is little in common between Plaid in "fortress Gwynedd" and Plaid in other places.

I think it was Ieuan WJ who admitted at the (last ?) election that Plaid have the benefit of being able to say different things to people in different parts of Wales.

However it is a very interesting analysis that sugggests one result of Plaid's work is/will be their their demise in to factions. I suppose it is interesting to speculate as to which faction would have the upper hand in any Rainbow coalition (back on Glyn Davies's agenda this week).

8 comments:

Bonheddwr said...

Rwy'n sicr yn cyfrif fy hun yn genedlaetholwr traddodiadol, sy'n poeni'n fawr am faterion yn ymwneud a'r Gymraeg. Rwyf hefyd yn Sosialydd, ac yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Efallai fod ambell i aelod ym Mhlaid Cymru ddim yn cytuno gyda pob un o bolisiau'r Blaid OND onid yw hyn yn wir gyda pob Plaid Gwleidyddol?

Ydych chi'n cytuno gyda rhyfel Irac Martin? Beth am PFI? Trident?

Un peth sy'n sicr am BOB un o aelodau Plaid Cymru, maent yn mynd mynd i rhoi pobl Cymru 1af.

Rhaid i'r holl bleidiau Prydeinig boeni am bleidleisiau 'middle England', ac felly yn esgeuluso eu cyfrifoldebau yng Nghymru. Dyna pam mai Cymru yw un o ardaloedd tlotaf yr UE. Mae hyn wedi digwydd er i'r Blaid Lafur fod mewn grym yng Nghymru ers degawdau.

Onid yw hyn yn dangos fod Llafur wedi methu pobl Cymru? Onid yw hyn yn dangos fod y Deyrnas Unedig wedi methu pobl Cymru?

Pe bai Cymru'n annibynol:
1, Ni fyddai pwrpas cael Plaid sy'n galw am annibyniaeth (am resymau amlwg)
2, Ni fyddai pwrpas cael pleidiau cenedlaetholgar Brydeinig.

Yn naturiol, byddai pleidiau newydd ceidwadol, sosialaidd, rhyddfrydol, gwyrdd ayb CYMREIG yn cael eu ffurfio. Synnwyr cyffredin yw hyn.

Ac un pwynt olaf Martin. Mae bron pob un o'r sylwadau ar eich blog yn ymosod ar Blaid Cymru am rhyw reswm neu'i gilydd. Oni byddai'n well defnyddio eich amser yn hyrwyddo polisiau eich plaid chithau? Rhyfel Irac, PFI, Trident ayb?

O sori, un pwynt arall. Siomedig fod y defnydd o'r Gymraeg ar y blog o hyd yn isel. Ond dyna ni, beth ddylai rhywyn ddisgwyl gan Blaid sy'n cyhoeddi eu gwefan swyddogol heb bron dim Cymraeg? Mae gwefan y Ceidwadwyr hyd yn oed yn llawer cryfach. A beth gall rhywyn ddisgwyl gan Blaid sy'n gwrthwynebu cyfartaladd ym maes y Gymraeg gan eu bod yn poeni yn ormodol am hawliau busnesau preifat ar draul hawliau pobl Cymru?

Martin Eaglestone said...

Nifer o bwyntau ddoe yn ol at. Un broblem bach sydd gennyf yw bod 'blogio' yn rhywbeth am yr eiliad, ac felly nid oes amser yw gyru am cyfiethu ag ati. Ond mae yna cwynion wedyn fod safon y Cymraeg (fel y Saesneg !) dim yn digon da.

Felly beth yw'r gorau - ymateb fel hyn (gyda camgymeriadau) neu cadw i'r Saesneg.

Nid (hyd yma!) wyf yn derbyn cwynion pam mae safon yr Saesneg yn difugiol, ond nid wyf eisio pechu pobol oherwydd gwendidau yn fyn gramedeg Cymraeg.

Unrhyw cyngor ar hyn yw croesawu

Cai Larsen said...

All political parties are rather broad churches, & are divided into various factions. God only knows why you believe Plaid to be unique in this sense.

Cai Larsen said...

Hyd y gwn i nid oes neb wedi cwyno am safon eich Cymraeg ysgrifenedig.

Martin Eaglestone said...

Gweler uchod yn cynnwys

"Siomedig fod y defnydd o'r Gymraeg ar y blog o hyd yn isel".

Nid y cwyn gyntaf !

Cai Larsen said...

Cwyno am amledd y defnydd o'r Gymraeg mae Hedd 'dwi'n meddwl - nid yr ansawdd.

Bonheddwr said...

Nid cwyno am safon eich Cymraeg ydwyf i, ond yn hytrach cwyno nad oes digon o negeseuon Cymraeg ar eich blog.

Dwi'n eich llongyfarch yn fawr am ddysgu'r iaith, ond yn siomi nag ydych yn gwneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar eich blog.

Ond nid chi yn unig sy'n euog o ddefnyddio cyn-lleied o Gymraeg ar eich blog. Mae yr un peth yn wir am flogiau rhai aelodau Llafur a Phlaid Cymru, a rhai ohonynt yn siardwyr Cymraeg iaith 1af ac nid yn ddysgwyr!

Ond beth bynnag, nid dyna oedd pwrpas fy sylwadau. Y pwrpas oedd dangos fod peth rhwygiadau yn bodoli ym mhob Plaid gwleidyddol.

Roeddwn hefyd yn ceisio pwysleisio fod Cymru yn un o ranbarthau tlotaf yr UE, er bod Cymru wedi cael ei lywodraethu ar lefel lleol gan y Blaid Lafur ers degawdau, ac ar lefel cenedlaethol, a Phrydeinig ers bron i ddeg mlynedd.

Onid yw hyn yn dangos fod y Blaid Lafur a'r drefn Brydeinig' wedi methu yma yng Nghymru?

Martin Eaglestone said...

Gwerthfawrogi'r eglurhad ac yn codi cwestiwn digon diddorol. Mae yna diddordeb amlwg yn datblygu am 'blogs' gweler - Wales Elects 2007, Tiger Tales,Blamerbell briefs ag ati. I codi sylw mae'n edrych (yn teg neu ddim) bod blog yn yr saesneg maen nhw yn ei ddilyn. Felly dipyn o chwarae i cyneidlleifa yn cadw materion o diddordeb.