The Daily Post has posted a video of Rhodri's visit to Caernarfon. A pity (but inevitable) that it focusses on the Cymdeithas protest rather than the interesting discussion with local shop traders and business representatives. In the video Rhodri confimrs that a new language act forcing langauge measures on the private sector is not on the horizon.
Having been in Mid Wales since yesterday evening I will post more photos soon.
2 comments:
Pam ydych chi'n defnyddio'r term negyddol 'forcing' Martin? Onid yw pob cyfraith gwlad yn defnyddio elfen o orfodaeth, neu beth yw pwynt cyfreithiau yn y lle cyntaf!?! Chi'n amlwg yn ceisio creurhwyg rhwng y Cymry Cymraeg a'r Di-Gymraeg unwaith eto, rhag eich cywilydd chi!
Mae cytundeb "Cymru'n Un" yn datgan yn gwbwl glir y bydd yna Deddf Iaith newydd. Mae'r Gweinidog Treftadaeth wedi datgan bod hyn ar y gweill, felly pam fod Rhodri yn gwrth-ddweud hyn gan ddatgan nad oes unrhyw amserlen?
Does dim rhyfedd fod y gefnogaeth i'r Blaid Lafur wedi chwalu yn ardaloedd Cymraeg. Roedd cynlluniau'r Blaid Lafur yn gwbwl annigonol ym maes y Gymraeg, ac roedd hyn yn ffactor mawr pam cwympodd y gefnogaeth i'r Blaid yn y Gorllewin yn ystod yr etholiad diwethaf.
Mae'n gwbwl amlwg o sylwadau Rhodri, a'ch sylwadau chi, eich bod chi heb ddysgu'r un wers, ac felly bydd eich cefnogaeth yn parhau i ddisgyn.
Da gweld eich bod yn parhau i flogio mwy neu lai yn uniaith Saesneg, tra'n ymgeisydd mewn un o ardaloedd mwyaf Cymraeg Cymru!
Dysgu dim!!!!!!!!!
Ie, ella "oblige" neu "require" fuasai geiriau fwy derbynniol ? Ac dwi yn cymerud ymlaen y pwnt am tone y trafodaeth.
Rhodri dywedodd bod yna dim amserlen - i mi cofio - ac dwi yn siwr mater i Llywodraeth 'Cymru Un' fydd pa bryd mae mesurau yn dywad ymlaen.
Yn diddorol i mi nid oedd Deddf Iaith i weld yn ystyriaeth uchel gan y busnesau lleol oedd Rhodri wedi cwrdd, ond gwella safon yr economi leol.
Ar hyn o bryd dwi yn ymchwilio i'r mater o safbwynt Llafur, fel cyfraniad i pamffled ar y mater ella ddaw ymlaen yn y misoedd nesaf.
Yndyw dwi yn floggio trwy'r iaith Saesneg oherwydd fod o, yn cyffredinnol, yn hawsach i mi, ac ar gael i fwy o darllenwyr (does gen i ddim yr amser i cyfiaethu bob peth).
Teimlaf bod gwell gen i floggio, a felly rhannu rhai negeseon (hyd yn oed rhai sydd ddim yn plesio pawb !) na ddim flogio o gwbl.
Nid i flas pawb, ond dwi ddim yn "forcing" neb i darllen beth dwi'n rhoi lawer !
Post a Comment