Saturday, January 13, 2007

Iaith-Language

Dwi wedi dal i fynny gyda blog Gwennu dan Fysiau sydd yn gwneud y pwnt, digon teg, am diffyg Cymraeg ar y blog (trwy cyferiad at posting gynnar a wnaethwyd ar aelod o staff o Cyngor Gwynedd a'r iaith Cymraeg). Ond mae'r ffaith bod 'Gwennu' yn pwysleisio yr angen am bod yn manwl gywir yn y iaith efallai'n esbonio pam mae rhywun yn defnyddio Saesneg. (I can't square that circle as blogs give quick - not officially translated responses).

Ar safon 'Gwennu' fuasai'n gwell i mi aros yn y Saesneg - yr union mater oedd aelod staff o Cyngor Gwynedd wedi ymdrechio i dod drosof.

Ond rwyf yn derbyn yn hollol bod hyn yn barn dysgwr, yn erbyn rhywun sydd yn disgwyl gwasanaeth diggonol.

Back to the Seasneg - although my typing and grammer can be c**p in that language as well.

(the above blog explains a criticism by 'Gwennu dan fysiau' that as the candidate in Arfon I make insufficient use of Welsh. Yet my original blog criticised Gwynedd for highlighting a member of staff who had written in Welsh, but not to a good enough standard. Well as a learner that is a problem for me as well, so should I onlyblog in English ?. I do point out that my English can be c**p as well while blogging).

3 comments:

Rhys Wynne said...

Ble chi di bod, ysgrifennais hwnna nôl yn Awst? ;-)

Fel dywedais i, dylsai pobl flogio ym mha bynnag iaith sydd orau ganndynt, mond pwynio allan wnes i y byddai'n gwneud synnwyr i chi flogio'n Gymraeg (wel dwyieithog o leiaf) o ystyied beth yw iaith y mwyafrif llethol o'r bobl rydych yn obeithio eu cynrychioli. Does dim ffordd gwell o ymarfer eich Cymraeg ysgrifennedig. mae dros hanner y pobl sy'n gadale sylw ar fy mlog yn ddysgwyr sy'n blogio'n Gymraeg.

A'i cyngor Gwynedd wnaeth roi'r Stori i'r DP, neu aelod o'r cyhoedd oedd gyda dim byd gwell i wenud â'i amser? Tra dwi'n dal i gredu y dylai pobl allu disgwyl gohebiaeth gan eu awdurdod lleol mewn Cymraeg/Saesneg cywir, byddwn i ddim yn trafferthu i gwyno am ramadeg/sillafu neb. Dwi'n siwr bod 10'au o hen ddynaion blin a diflas ar draws ogledd Cymru'n ysgrifennu at eu cynghorau i gwyno am safon y Saesneg mewn llythyrau gan Swyddogion, ond gaiff rhain byth eu crybwyll yn y wasg.

Martin Eaglestone said...

Yn araf iawn yn dal i fynnu gyda rhai 'blogs', ond mae'n dangos gryfder y we ein bod yn cyfewid sylwadau - os misoedd yn hwyr. Y pwnt sydd gennyf yw y fydd gwendidau (bosib yn y ddau iaith) wrth blogio. Ond mae pwnt ti am i mi ymarfer dipyn mwy trwy'r Gymraeg ar y blog yn digon teg. Fuasai rhageln fel gwiro ar blogger yn defnyddiol.

Rhys Wynne said...

Falch bod chi di mentro postio'n Gymraeg (gobeithio y cewch chi lawer o ymatebion!)

Mae'n anhebygol bydd gwirydd iaith Cymraeg i'w gael ar Blogger yn y dyfodol agos OND mae geiriadur ar gael os ydych yn defnyddio Firefox fel porwr (browser)

Dwi'n dyfalu mai 'Internet Explorer' rydych yn ddefnyddio. Mae pobl techy (nid fi) yn dweud bod Firefox yn llawer gwell na IE - dyma dwi'n ddefnyddio.

Os ydych yn trio allan Firefox (sydd AM DDIM), ac yn ei hoffi, gallwch ychwanegu geiriadur Cymraeg/Saesneg ato (sy'n cywirio treiglo hefyd dwi'n meddwl). Dyma lun sgrin