Yw'r gwahanieth rhwng ymateb yn Yr Alban a Cymru yn dangos pam mae cefnogaeth i Plaid Cymru byth yn symud tu hwnt i'r lefelau rydym wedi gweld dros cyfnod hir ? Yw anibyniaeth yn rhyw term romantis, yw defynddio gan pobl fel Dafydd Iwan, i cadw'r cefnogwyr craidd yn hapus. Ond mewn realiti ('read the polls') yn mor bell o pobl ei bod heb cysylltiad ar byd go iawn ?.
Mae wedi taro fi erioed bod cyn gymaint o pobl yn symud rhwng Cymru a Lloegr bob diwrnod (e.e Sir Fflint/Wrecsam a caer neu De Cymru a Briste) fod y syniad o wahannu yn syniad gwallgo.
Tuesday, January 16, 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
7 comments:
Dywedodd y pôl byddai 20% yn hoffi annibyniaeth, sy'n ganran sylweddol ac sydd ar gynydd - yn enwedig o gofio bod y wasg yng Nghymru ar agenda gwleidyddol yn cael ei osod yn Llundain. Tydio ddim yn ffigwr i Unoliaethwyr ymfalchio ynddo.
Dwi ddim yn gweld sut fyddai annibyniaeth yn rhwystro pobl rhag croesi'r ffin yn ddyddiol i weithio/siopa ayyb - mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers canrifoedd rhwng gwahanol wledydd/wladwriaethau.
Roeddwn innau o dan yr argraff nad yw'n gyfreithlon o dan reolau'r Gymuned Ewropiaidd i gyfyngu ar hawl pobl i deithio o un wlad i'r llall - nag i weithio mewn gwledydd ag eithrio gwlad frodorol.
Nid wyf yn dadla fydd anibyniaeth yn rhwystro neb, ond mae'r ffaith bod cyngymaint yn gwneud yn symud trasw ffiniol, fel rhan naturiol o fyw, bosib yn golygu bod yr 'philosophy' o annybyniaeth ddim yn golygu llawer. Mae hyn yn gwahannol, fuaswn yn tybio, i'r sefyllfa yn yr Alban lle mae croeso'r ffin yn gwahanol oherwydd bod nhw ym mynd o de i gogledd ac yn bellach o Lloegr,ond mae lot o Cymru yn weddol agos i Lloger. Efallai hefyd yn theory hollol twp !
Byddai'n ddiddorol gwybod pa ganran o boblogaeth Cymru sy'n croesi'r ffin yn ddyddiol i weithio - mwy o lawer yn y Gogledd Ddwyrain nag yn y De Ddwyrain mae'n debyg - ond canran fach (o dan 5% o boblogaeth y wlad i gyd efallai) byddwn yn tybio.
Mae'n lled gyffredin i gael teithio o un wlad i'r llall mewn rhai sefyllfaoedd - er enghraifft mae llawer iawn o deithio dyddiol rhwng Gogledd Iwerddon lle mae tai'n gymharol rhad a'r Weriniaeth lle mae'r swyddi breision. Mae cryn dipyn o groesi o'r math yma o'r dwyrain i mewn i'r Almaen, a rhwng Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.
Gyda pharch, mae'r ddadl yma yn erbyn annibyniaeth i Gymru yn un gweddol wan ar ei phen ei hun - er y byddai'n ddilys mewn cyfuniad a dadleuon eraill. Ydi eich gwrthwynebiad i annibyniaeth i Gymru wedi ei seilio ar dir ehangach na'r un sy'n ymwneud a chwithdod bod lleiafrif bach o bobl yn byw mewn un wladwriaeth ond yn gweithio mewn un arall?
Dwi ddim yn dweud bod hyn yn ddadl yn erbyn annibyniaeth, ond yn trafod/ ystyried a yw un o'r rhesymau pam mae gwahaniaeth mor glir yn y "poll" gwreiddiol - beth bynnag bryd oedd hynny- rhwng yr ymateb yng Nghmru ar Alban.
Ella gae ffigwr ar y nifer i ymatebd cwestiwn Menaiblog - ond bosib bod ffeithiau yn tori ar draws trafodaeth diddorol.
(nodyn i Sosialydd - oeddwn yn meddwl bod i yn byw yn Ewrop - 'cheap shot' dwi'n gwybod !)
Mae'n bosibl bod y ffaith bod cyfran fach yn teithio i Loegr yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth - ond gwahaniaeth ymylol yn ol pob tebyg.
Mae ffactorau megis y ffaith bod yr Alban efo cyfundrefn gyfreithiol ei a sefydliadau cenedlaethol eraill yn debygol o fod yn bwysicach.
Hefyd mae ffactorau economaidd - olew Mor y Gogledd, rhai hanesyddol - roedd gan yr Alban senedd am y rhan fwyaf o'i hanes, rhai llwythol - mae gwleidyddiaeth Gwyddelig yn fwy dylanwadol o lawer yn yr Alban nag yw yma.
Yn ychwanegol wrth gwrs, mae'r syniad o annibyniaeth yn cael ei werthu yno mewn ffordd nad yw yma.
Mae i weld o gweledigaeth Plaid cyhoeddwyd y wythnos yma bod o ddim am ei werthu o gwbl yng Nghymru.
Post a Comment